Pwrpas

Mae’r papur hwn yn darparu gwybodaeth gefndirol am ailraddio canlyniadau TGAU Saesneg Iaith CBAC yng Nghymru. Mae’n ategu’r datganiad llafar a wnaed gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar 25 Medi a’r adroddiad rheoleiddiol a gyhoeddwyd ar 10 Medi ac y gwnaed yr argymhelliad i ailraddio ynddo.

 

Cyflwyniad

1.     Mae Deddf Addysg 1997 (fel y’i diwygiwyd), ymysg pethau eraill, yn rhoi i Weinidogion Cymru swyddogaethau mewn perthynas â chymwysterau. Er pan ddiddymwyd ACCAC yn 2006, mae’r swyddogaethau hynny wedi eu harfer gan Weinidogion Cymru. Arferir y swyddogaethau o ddydd i ddydd, ar ran Gweinidogion Cymru, gan swyddogion yn yr hyn a elwir bellach yr Adran Addysg a Sgiliau.

 

2.     Ar 11 Medi 2012, cymerais y cam digynsail o ddefnyddio’r pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru gan Ddeddf 1997 i gyfarwyddo CBAC i ailraddio’r cymhwyster TGAU Saesneg Iaith ar gyfer ymgeiswyr yng Nghymru. Wrth wneud hynny, roeddwn yn gweithredu yn unol â chyngor fy swyddogion yn eu hadroddiad TGAU Saesneg Iaith 2012 – ymchwiliad i’r canlyniadau ar gyfer ymgeiswyr yng Nghymru, a gyhoeddwyd gennyf y diwrnod blaenorol.

 

3.      Gerbron cyfarfod llawn ar 25 Medi 2012, gwneuthum ddatganiad llafar i ddiweddaru Aelodau’r Cynulliad ynglŷn â’r cam a gymerwyd; ac ar 26 Medi ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ataf i’m gwahodd i drafod y mater ymhellach gyda’r Pwyllgor, mewn gwrandawiad ar 8 Tachwedd. Yn benodol, gofynnwyd imi ddarparu gwybodaeth bellach am y trafodaethau[1] a ddigwyddodd rhwng fy swyddogion, CBAC ac Ofqual mewn perthynas â newidiadau yn ffiniau’r graddau ar gyfer TGAU Saesneg Iaith, a’r opsiynau a oedd ar gael i mi.

 

4.     Rwyf yn darparu gwybodaeth bellach isod ynglŷn â’r trafodaethau hynny

 

Y cyd-destun

 

5.     Yn hanesyddol, mae’r cymwysterau TGAU a Lefel A wedi bod yn gymwysterau ar gyfer tair gwlad. Hynny yw, arferai dysgwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sefyll yr un arholiadau ac asesiadau. Ar hyn o bryd, mae pum prif sefydliad dyfarnu (sef y ’byrddau arholi’ fel y’u gelwir yn gyffredin) yn cynnig cymwysterau TGAU a Lefel A: CBAC, AQA, Edexcel, OCR a CCEA. Roedd dysgwyr ym mhob un o’r tair gwlad yn rhydd i sefyll, ac yn wir, wedi sefyll, arholiadau TGAU a Lefel A gydag unrhyw un o’r byrddau hyn – er bod CCEA, y bwrdd arholi sy’n gweithredu o Ogledd Iwerddon, wedi cyhoeddi eleni na fydd yn parhau i gynnig ei gymwysterau TGAU a Lefel A i ddysgwyr yn Lloegr.

 

6.     Er cyfeirio’n aml at CBAC fel y “Bwrdd Cymreig” mae mwy na hanner nifer cyffredinol yr ymgeiswyr am gymwysterau TGAU a Lefel A CBAC yn dod o Loegr. Mae’r gyfran yn amrywio o bwnc i bwnc; ond yn achos TGAU Saesneg Iaith eleni, roedd dros 70% o ymgeiswyr CBAC yn dod o Loegr.

 

7.     Oherwydd eu natur fel cymwysterau ar gyfer tair gwlad, mae’r cymwysterau hyn wedi bod yn rhywfaint o her erioed i reoleiddwyr ym mhob un o’r gwledydd – yn enwedig ynglŷn â rhannu cyfrifoldebau. Mae penderfyniadau a wneir mewn un wlad yn effeithio’n uniongyrchol ar ymgeiswyr yn y ddwy wlad arall. O ganlyniad, er bod y baich rheoleiddio wedi ei rannu i raddau, gyda swyddogion Llywodraeth Cymru yn arwain wrth reoleiddio’r cymwysterau a gynigid gan CBAC, roedd yn arferol hefyd i swyddogion rheoleiddio o’r tair gwlad ddod at ei gilydd i drafod gofynion, penderfyniadau neu weithredoedd rheoleiddio, cyn eu cyfleu i sylw’r byrddau arholi. Yr arfer nodweddiadol wedyn oedd cyfathrebu â’r byrddau arholi mewn llythyrau a oedd yn dwyn logos pob un o’r tri chorff rheoleiddio – er mwyn hyrwyddo cysondeb. Oherwydd maint a galluoedd cymharol Ofqual, roedd yn arferol i’r llythyrau 'tair gwlad' hyn gael eu dyroddi gan Ofqual, ar ran y tri rheoleiddiwr.

 

8.     Digwyddodd y trafodaethau rhwng AdAS ac Ofqual ac, i raddau llai,  y trafodaethau rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a CBAC, ynglŷn â TGAU Saesneg Iaith, yn ystod tri phrif gyfnod. Y cyfnodau oedd—

 

i)             cyn penderfynu ar y canllawiau adrodd a’u dyroddi i’r byrddau arholi gan Ofqual ar 25 Mehefin 2012;

ii)            yn dilyn y cyfarfod dyfarnu ar 27 Gorffennaf 2012 a chyn cyhoeddi’r canlyniadau TGAU dros dro ar 23 Awst 2012; a

iii)           yn dilyn cyhoeddi’r canlyniadau TGAU dros dro a chyn rhoi’r Cyfarwyddyd i CBAC i ailraddio’r cymhwyster ar 11 Medi.

 

Y trafodaethau cyn dyroddi’r canllawiau adrodd

 

9.     Roedd paragraffau 24 i 33 o’r adroddiad a gyhoeddais ar 10 Medi yn amlinellu cefndir yr arfer o ddefnyddio rhagfynegyddion wrth benderfynu ar ffiniau’r graddau yn y cymwysterau TGAU a Lefel A. Yn fyr, roedd y fethodoleg honno wedi ei mabwysiadu yn wreiddiol er mwyn sicrhau nad oedd ymgeiswyr am gymhwyster newydd neu ddiwygiedig yn dioddef anfantais, nac yn cael mantais, annheg drwy fod yn perthyn i’r cohort cyntaf i gymryd y cymhwyster hwnnw (cyfeirir at hyn yn nes ymlaen yn y papur hwn fel yr “egwyddor canlyniadau cymaradwy”). Mae’r fethodoleg hefyd wedi ei chynllunio i sicrhau nad yw ymgeiswyr cyffelyb o ran gallu yn dioddef anfantais, nac yn cael mantais, drwy sefyll eu harholiadau gydag unrhyw un bwrdd arholi yn hytrach nag un arall.

 

10.  Defnyddiwyd y fethodoleg rhagfynegyddion ar draws pob un o’r byrddau arholi am y tro cyntaf pan gyflwynwyd y gyfres bresennol o gymwysterau Lefel A – a’r amcan bryd hynny oedd cynnal perthynas sefydlog rhwng perfformiad cohort yn yr arholiadau TGAU a’i berfformiad yn yr arholiadau Lefel A. Mae’n wir bod cyflwyno’r fethodoleg honno ar gyfer lefel A wedi ei herio unwaith neu ddwy yng Nghymru: codwyd pryderon gan swyddogion Llywodraeth Cymru a CBAC ynghylch gwahaniaethau yn y cohortau ac yn yr arholiadau TGAU a sefir yn y gwahanol wledydd. Ar gais Llywodraeth Cymru a CBAC, cytunodd y tri rheoleiddiwr i gomisiynu’r Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (NFER) i ymchwilio i ddibynadwyedd y dull. Yng ngoleuni canfyddiadau’r ymchwil hwnnw, llwyddodd swyddogion Llywodraeth Cymru a CBAC i liniaru llymder y goddefiannau adrodd. Fodd bynnag, er gwaethaf rhai amheuon, cytunir yn gyffredinol bod y fethodoleg hon yn gymwys a pherthnasol ar gyfer Lefel A ar draws Cymru a Lloegr, tra bo’r canlyniadau TGAU yn parhau’n ddibynadwy a chyson ar draws y ddwy wlad.

 

11.  Fodd bynnag, fel y nodwyd yn yr adroddiad ar 10 Medi, datganwyd pryder parhaus gan swyddogion Llywodraeth Cymru ynglŷn â chymhwyso methodoleg gyffelyb, a oedd yn defnyddio canlyniadau Cyfnod Allweddol 2 yn Lloegr yn sail ar gyfer rhagfynegi canlyniadau TGAU. Roedd safbwynt swyddogion Llywodraeth Cymru yn eglur o’r dechreuad, sef na ellid ac na ddylid defnyddio methodoleg o’r fath mewn perthynas ag ymgeiswyr yng Nghymru; ac mewn trafodaethau gydag Ofqual yn 2011, dadleuasant yn llwyddiannus na ddylid penderfynu canlyniadau unrhyw un o gymwysterau TGAU newydd CBAC (mewn pynciau megis Daearyddiaeth, Hanes ac Ieithoedd Tramor Modern) drwy ddefnyddio canlyniadau Cyfnod Allweddol 2. Tra oedd AQA, Edexcel ac OCR yn penderfynu eu canlyniadau gan ddefnyddio’r fethodoleg honno yn 2011, roedd CBAC yn defnyddio yn hytrach fethodoleg a gynlluniwyd i arddangos canlyniadau sefydlog rhwng cohortau mewn canolfannau gyda chofrestriadau ddwy flynedd yn olynol.

 

12.  Yn gynnar yn 2012, rhybuddiwyd swyddogion Llywodraeth Cymru gan swyddogion Ofqual mai eu bwriad, oherwydd bod CBAC yn cofrestru niferoedd sylweddol o ymgeiswyr o Loegr ar gyfer rhai o’i bynciau craidd TGAU, oedd gwneud yn ofynnol bod CBAC y defnyddio rhagfynegyddion Cyfnod Allweddol 2 i benderfynu’r canlyniadau disgwyliedig ar gyfer manylebau CBAC. Cynhaliwyd nifer o drafodaethau rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru ac Ofqual ynghylch anaddasrwydd y rhagfynegyddion hyn i Gymru. Fodd bynnag, ar 19 Ebrill, heb ddod i gytundeb ymlaen llaw â swyddogion Llywodraeth Cymru, ysgrifennodd Ofqual at CBAC, yn gofyn i’r Cyd-bwyllgor am adroddiad gyferbyn â’r rhagfynegiadau Cyfnod Allweddol 2 , ar gyfer  pob cymhwyster TGAU a oedd â mwy na 500 o ymgeiswyr o Loegr. Gwrthwynebwyd hyn gan swyddogion Llywodraeth Cymru, a oedd yn parhau i fynegi’r safbwynt nad oedd yn briodol penderfynu canlyniadau ymgeiswyr o Gymru ar sail cyrhaeddiad blaenorol ymgeiswyr o Loegr. Fodd bynnag, pan ddaeth yn amlwg mai o Loegr yr oedd mwyafrif sylweddol o ymgeiswyr CBAC ar gyfer TGAU Saesneg Iaith  yn hanu, ac mai’r ymgeiswyr hynny oedd y cofrestriad ail fwyaf o ymgeiswyr o Loegr gan unrhyw gorff dyfarnu, anodd oedd parhau i wrthwynebu defnyddio’r fethodoleg yn achos y pwnc hwnnw. Cytunwyd, felly, y byddai CBAC, ar gyfer ei gyfres o gymwysterau Saesneg yn unig, yn adrodd am eu canlyniadau disgwyliedig gyferbyn â’r rhagfynegiadau ar sail Cyfnod Allweddol 2.

 

13.  Nid oedd yn amlwg, ar unrhyw adeg yn ystod y trafodaethau cynnar hyn, y byddai defnyddio’r fethodoleg CA2 yn cael unrhyw effaith arwyddocaol ar y canlyniadau i ymgeiswyr yng Nghymru: ni ddaeth yn bosibl dirnad unrhyw effaith o’r fath hyd nes oedd gwaith yr ymgeiswyr wedi ei farcio a dosbarthiad y marciau yn hysbys (sef ar ddiwedd Gorffennaf 2012). Nid oedd dim, ychwaith, i ddynodi na fyddai’r egwyddor canlyniadau cymaradwy yn parhau’n elfen ganolog mewn unrhyw fethodoleg a weithredid i gynnal y safonau ar lefel TGAU. Yn ogystal, roedd cyfathrebiadau Ofqual yn datgan mai ‘at ddibenion adrodd yn unig’ y defnyddid rhagfynegyddion. Yn y gorffennol, roedd canlyniadau a ddeuai y tu allan i’r hyn a ragfynegid wedi eu derbyn ar sail cyfiawnhad priodol a rhesymol o’r gwahaniaeth rhwng canlyniadau rhagfynegedig a’r canlyniadau gwirioneddol.

 

Trafodaethau a gynhaliwyd rhwng y cyfarfod dyfarnu a chyhoeddi’r canlyniadau

 

14.  Fel rheol penderfynir ar y ffiniau rhwng graddau gan uwch-arholwyr o’r bwrdd arholi, mewn cyfarfod dyfarnu. Mae’r arholwyr yn adolygu amrediad o waith yr ymgeiswyr er mwyn penderfynu lle y dylid gosod nifer o’r ffiniau allweddol rhwng graddau. Gwnânt hynny gan gyfeirio at nifer o ddangosyddion ystadegol. Dros y blynyddoedd diweddar, ar ôl mabwysiadu methodoleg y rhagfynegyddion, mae’r pwysigrwydd a briodolir i’r dangosyddion ystadegol hyn wedi cynyddu.

 

15.  Yng Ngorffennaf 2012, gohiriwyd cyfarfod dyfarnu CBAC ar gyfer TGAU Saesneg Iaith am rai diwrnodau, oherwydd pryderon a godwyd, yn enwedig gan fyrddau arholi eraill, ynglŷn ag anawsterau gyda’r dangosyddion ystadegol. Rhoddir amlinelliad o’r anawsterau hyn ym mharagraffau 34 a 35 o adroddiad 10 Medi. Cynhaliwyd y cyfarfod dyfarnu o’r diwedd ar 27 Gorffennaf, ac arsylwyd arno gan arbenigwr pwnc annibynnol a gontractiwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i rhaglen graffu ar gyfer y cymhwyster hwnnw. Y prynhawn hwnnw, cyn diwedd y cyfarfod, rhybuddiwyd un o swyddogion Llywodraeth Cymru, gan Brif Weithredwr CBAC, fod canlyniadau gradd C ac uwch ar gyfer ymgeiswyr yng Nghymru yn ymddangos yn debygol o fod yn sylweddol is, o gymharu â chanlyniadau’r flwyddyn flaenorol. Ar yr adeg honno, nid oedd yn eglur beth fyddai maint y gwahaniaeth, ond hysbysodd y swyddog hwnnw ei uwch-gydweithwyr. Yn ystod yr un prynhawn, siaradodd un o swyddogion Llywodraeth Cymru gydag uwch-swyddog o Ofqual er mwyn:

 

·         tynnu sylw at y posibilrwydd y byddai canlyniadau CBAC yn achosi problemau,

·         pwysleisio bod defnyddio’r fethodoleg rhagfynegyddion ar gyfer cymhwyster TGAU Saesneg Iaith CBAC yn fater a gytunwyd ‘at ddibenion adrodd’ yn unig. Byddai hyn yn caniatáu’r rheoleiddwyr i adolygu sut yr oedd canlyniadau CBAC yn cymharu â’r canlyniadau rhagfynegedig. Pe byddai’r broses hon wedi datgelu gwahaniaeth arwyddocaol rhwng y canlyniadau rhagfynegedig a’r canlyniadau gwirioneddol, yna byddai unrhyw fwlch yn cael ei gau fel arfer drwy ddilyn dull aml-gam o dan weithdrefnau sefydlog, a

·         datgan na fyddai’n briodol i ymgeiswyr yng Nghymru gael canlyniadau sylweddol is oherwydd defnyddio’r fethodoleg dan sylw.

 

Ni chodwyd unrhyw bryderon gan swyddog Ofqual ynglŷn â’r pwyntiau hyn.

 

16.  Ar ddydd Llun 30 Gorffennaf, ar ddiwedd cyfarfod a drefnwyd yn gynharach i drafod materion eraill, cefais wybod gan Brif Weithredwr CBAC fod canlyniadau TGAU Saesneg Iaith ar gyfer ymgeiswyr yng Nghymru yn debygol o fod tua 3.4% yn is na chanlyniadau’r flwyddyn flaenorol. Gofynnais i’m swyddogion ddarparu briffiad llawn ar y mater erbyn diwedd yr wythnos. Cefais y briffiad hwnnw ar ddydd Gwener 3 Awst. Cyn cyflwyno’r briffiad, roedd fy swyddogion wedi bod mewn cyfarfod ar 31 Gorffennaf ar wahoddiad Ofqual, lle y mynegwyd pryderon gan CBAC a chan fyrddau arholi eraill ynghylch dibynadwyedd y fethodoleg rhagfynegyddion ar gyfer canlyniadau TGAU Saesneg Iaith. Roedd y swyddogion wedi gofyn hefyd am ragor o wybodaeth gan CBAC, ac wedi ei chael. Roedd yr wybodaeth honno yn datgan pryderon ynghylch effaith y fethodoleg rhagfynegyddion ar y canlyniadau ar gyfer Cymru. Dywedodd Prif Weithredwr CBAC fod dyfarniad CBAC ar gyfer TGAU Saesneg Iaith yn llawer llymach nag y byddai rhagdybiaethau ‘canlyniadau cymaradwy’ wedi ei ddarparu[2].

 

17.  Roedd y briffiad a gefais gan fy swyddogion ar 3 Awst yn rhestru nifer o esboniadau posibl o’r gostyngiad yn y canlyniadau ar gyfer ymgeiswyr yng Nghymru, gan gynnwys gostyngiad gwirioneddol yn y perfformiad; anawsterau penodol ynglŷn ag ymaddasu i’r gyfran uwch o asesiadau dan reolaeth; a phroblemau gyda dibynadwyedd y fethodoleg rhagfynegyddion. Cefais wybod gan y swyddogion hefyd y byddai’r Canlyniadau TGAU Saesneg Iaith yn destun cyfarfod pellach gydag Ofqual a’r byrddau arholi, ar ddydd Llun 6 Awst.

 

18.  Yn y cyfarfod hwnnw ar 6 Awst, a gynullwyd gan Ofqual ac a oedd yn cynnwys dau swyddog o Lywodraeth Cymru, mynegwyd pryderon gan nifer o fyrddau arholi ynghylch effeithiolrwydd y model rhagfynegyddion. Mynegwyd pryderon gan Ofqual fod canlyniadau dros dro CBAC yn “rhy hael” o gymharu â’r rhagfynegyddion CA2. Roedd swyddogion Llywodraeth Cymru yn dadlau bod canlyniadau CBAC yn rhy llym yn nhermau canlyniadau cymaradwy ar gyfer Cymru, ac yn pwysleisio ei bod yn ymddangos yn debygol y byddai ymgeiswyr yng Nghymru yn dioddef o ganlyniad i ddefnyddio’r model rhagfynegyddion, y mynegwyd cynifer o bryderon yn ei gylch. Roeddent yn dadlau y dylid ystyried datgymhwyso’r model rhagfynegyddion ar gyfer TGAU Saesneg Iaith. Dywedodd Prif Weithredwr Ofqual nad oedd hi’n barod i wneud hynny, a phenderfynodd y dylai trafodaethau ynghylch canlyniadau CBAC (a chanlyniadau Edexcel a oedd yn achosi problemau cyffelyb) barhau y tu allan i’r cyfarfod.

 

19.  O ganlyniad i’r cyfarfod hwnnw, roedd yn amlwg y byddai’n eithafol o anodd cytuno ar set derfynol o ganlyniadau. Fel y nodwyd ym mharagraff 6 uchod, roedd dros 70% o ymgeiswyr CBAC ar gyfer y cymhwyster yn dod o Loegr, ac yr oedd hynny’n gosod Ofqual mewn sefyllfa gref wrth negodi. Dylid nodi hefyd fod pawb, ar y pryd, yn tybio ei bod yn hanfodol pennu un set o ffiniau gradd, ar gyfer y tair gwlad.

 

20.  Ar 7 Awst, parhaodd y trafodaethau rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru ac Ofqual. Tynnodd swyddogion Llywodraeth Cymru sylw Cyfarwyddwr Cyffredinol AdAS at ddifrifoldeb y sefyllfa. Erbyn hyn roedd Ofqual yn mynnu y dylai CBAC godi ei ffiniau gradd ar gyfer TGAU Saesneg Iaith, gan fod y canlyniadau dros dro ar gyfer TGAU Saesneg Iaith gradd C 4.1 pwynt canran uwchlaw’r canlyniad a ragfynegwyd ar gyfer ymgeiswyr yn Lloegr drwy ddefnyddio’r fethodoleg rhagfynegyddion. Roedd Ofqual yn datgan yn eglur na fyddai’n derbyn canlyniadau dyfarnu CBAC, a oedd eisoes yn dangos gostyngiad sylweddol ar gyfer ymgeiswyr yng Nghymru.

 

21.  Ar 8 Awst ysgrifennodd Ofqual at CBAC, gan ofyn i’r Cyd-bwyllgor adolygu ei ffiniau gradd a chan rybuddio, os na fyddai’r Cyd-bwyllgor yn gwneud hynny, y byddai’n angenrheidiol wedyn, ym marn Ofqual, anfon hysbysiad o fwriad Ofqual i ddyroddi cyfarwyddyd ar y mater[3].

 

22.  Ar fore’r 9fed o Awst, atebodd CBAC lythyr Ofqual, gan anfon copi o’i ateb at swyddogion Llywodraeth Cymru, a chan ddarparu data ynglŷn â phedwar opsiwn ar gyfer y ffiniau gradd. Amlinellir yr opsiynau hyn yn Atodiad 1 isod. Yr opsiwn cyntaf oedd cadw’r ffiniau a bennwyd yn y cyfarfod dyfarnu, a oedd eisoes yn gosod y canlyniadau gradd C ac uwch ar gyfer ymgeiswyr yng Nghymru 3.3 pwynt canran yn is na’r flwyddyn flaenorol – ond a oedd yn gosod y canlyniadau ar gyfer ymgeiswyr yn Lloegr 4.1 pwynt canran uwchlaw’r rhagfynegiad CA2.

 

23.  Roedd yr ail opsiwn a ddarparwyd gan CBAC yn gostwng y canlyniadau gradd C ac uwch ar gyfer Cymru 0.6 pwynt canran ymhellach islaw canlyniadau’r cyfarfod dyfarnu, ac yn lleihau’r bwlch rhwng y canlyniadau yn Lloegr a’r rhagfynegiadau CA2 i 3.6 pwynt canran. Yr oedd yr opsiwn hwn, fodd bynnag, yn codi’r canlyniadau Gradd A ac uwch ar gyfer Cymru 0.6 pwynt canran yn uwch. Yn ei ymateb i Ofqual, er bod CBAC yn dadlau y dylai canlyniadau’r cyfarfod dyfarnu sefyll, dywedodd CBAC ei fod yn teimlo mai’r opsiwn hwn oedd yr un y gellid cytuno arno, os oedd y rheoleiddwyr ar y cyd o’r farn y dylid gwneud addasiad[4].

 

24.  Roedd y trydydd opsiwn a ddarparwyd gan CBAC yn gostwng y canlyniadau gradd C ac uwch ar gyfer Cymru 1.7 pwynt canran (sef 5 pwynt canran yn is na’r canlyniadau gradd C ac uwch yn 2011) tra’n lleihau’r bwlch rhwng y canlyniadau rhagfynegedig a’r canlyniadau gwirioneddol ar gyfer ymgeiswyr yn Lloegr i 2.8 pwynt canran.

 

25.  Roedd y pedwerydd opsiwn yn gostwng canlyniadau Cymru 2.7 pwynt canran yn is na chanlyniadau’r cyfarfod dyfarnu (sef 6 phwynt canran yn is na’r canlyniadau gradd C ac uwch yn 2011) ac yn lleihau’r bwlch rhwng y canlyniadau rhagfynegedig a’r canlyniadau gwirioneddol ar gyfer ymgeiswyr yn Lloegr i 2 bwynt canran.

 

26.  Bu swyddogion Llywodraeth Cymru yn trafod yr opsiynau hyn gydag Ofqual, ac yn dadlau’n gryf y dylid cadw canlyniadau’r cyfarfod dyfarnu, a oedd eisoes yn andwyol i ymgeiswyr yng Nghymru. Roedd yn amlwg erbyn hynny na fyddai Ofqual, ar unrhyw gyfrif, yn derbyn y canlyniadau “cyfarfod dyfarnu”. Yr un pryd, ysgrifennodd Ofqual at Edexcel, gan nodi disgwyliad Ofqual y dylai Edexcel hefyd addasu ei ganlyniadau fel eu bod o fewn goddefiant y rhagfynegyddion Cyfnod Allweddol 2. Pe na bai Edexcel wedi cydymffurfio â hynny, dealltwriaeth fy swyddogion oedd y byddai Ofqual wedi symud ymlaen i ddyroddi Cyfarwyddyd i Edexcel. Yn dilyn trafodaethau maith, gydag Ofqual yn parhau i wrthod y canlyniadau “dyfarnu”, cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru, yn groes i’w hewyllys, i dderbyn yr opsiwn y cyfeirir ato ym mharagraff 23 uchod, gan wneud yn eglur nad hwnnw oedd eu dewis gorau, ond eu bod yn cydnabod yr angen, erbyn hynny, i gytuno ar set gyffredin o ffiniau gradd.

 

27.  Ar 10 Awst, ysgrifennodd Ofqual at CBAC, gan ofyn i’r Cyd-bwyllgor weithredu’r newidiadau hyn yn ffiniau’r graddau. Mynnodd swyddogion Llywodraeth Cymru na ddylid anfon y llythyr hwnnw mewn llythyr gyda phennawd y tair gwlad, ond roeddent yn fodlon i’r llythyr nodi bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda swyddogion rheoleiddio Llywodraeth Cymru a bod cytundeb wedi ei gyrraedd.

 

28.  Ar 15 Awst roeddwn mewn cyfarfod gyda swyddogion er mwyn trafod, yn bennaf, y canlyniadau Lefel A, a oedd ar fin eu cyhoeddi; ond rhoddwyd briffiad imi hefyd ar ddigwyddiadau’r wythnos flaenorol ynglŷn â TGAU Saesneg Iaith, ac esboniad pam y bu’n rhaid cyfaddawdu.

 

29.  Cefais fy mriffio ar y canlyniadau TGAU dros dro ar 22 Awst, yn union cyn eu cyhoeddi ar 23 Awst. Daeth yn amlwg yn fuan iawn fod problemau yn codi ynglŷn â’r canlyniadau – nid yn unig o ran y gostyngiad yng nghanlyniadau Cymru, ond hefyd oherwydd amrywiadau tra arwyddocaol mewn perfformiad, rhwng y graddau rhagfynegedig a graddau gwirioneddol y canolfannau. Ar y diwrnod hwnnw, felly, gofynnais i’r swyddogion rheoleiddio gynnal ymchwiliad llawn. Er mwyn sicrhau gwrthrychedd, arweiniwyd yr ymchwiliad gan swyddog na fu’n ymwneud yn uniongyrchol â’r trafodaethau a gynhaliwyd yn gynharach ym mis Awst.

 

Trafodaethau a gynhaliwyd rhwng cyhoeddi’r canlyniadau dros dro ac ailraddio cymhwyster CBAC yng Nghymru

 

30.  Yn fuan wedi imi ysgogi ymchwiliad yng Nghymru, cyhoeddodd Ofqual y byddai yntau yn cynnal ymchwiliad. Galwyd cynhadledd deleffon rhwng y byrddau arholi a’r rheoleiddwyr ar ddydd Mawrth 28 Awst. Roedd y swyddogion a oedd yn arwain ymchwiliad Llywodraeth Cymru yn bresennol yn y gynhadledd. Cawsant gyfle i gyfeirio at pryderon deublyg, sef bod y canlyniadau i ymgeiswyr yng Nghymru wedi gostwng o fwy na’r ganran a fyddai’n rhesymol ar sail yr egwyddor canlyniadau cymaradwy; a bod yr amrywioldeb rhwng canlyniadau’r canolfannau yn eithafol. Gofynnwyd i’r byrddau arholi ddarparu meintiau helaeth o ddata i Ofqual. Gofynnodd swyddogion Llywodraeth Cymru am gael copïau o’r data hynny, a chytunodd Ofqual i anfon yr wybodaeth ymlaen. Nid anfonodd Ofqual unrhyw ddata ymlaen. Mae fy swyddogion o’r farn dyddiol mai amryfusedd oedd hynny, ond bu rhaid iddynt ofyn am y data gan y byrddau arholi ar wahân.

 

31.  Parhawyd i gynnal cyfarfodydd teleffon rhwng y rheoleiddwyr a’r byrddau arholi, gydag Ofqual yn cadeirio, tan ddydd Iau 30 Awst; ac ar ddydd Gwener 31 Awst cyflwynwyd adroddiad interim gan Ofqual. Ym marn swyddogion Llywodraeth Cymru roedd naws y cyfarfodydd hyn yn dynodi bod Ofqual a’r byrddau arholi yn cytuno â’i gilydd ar safiad amddiffynnol a fyddai’n cadarnhau eu bod wedi gweithredu’n briodol. Mae’n ymddangos mai ychydig neu ddim sylw a roddwyd i’r cwestiwn a oedd y canlyniadau, mewn gwirionedd, yn deg i’r ymgeiswyr. Yn ystod yr wythnos hon, ysgrifennodd swyddogion Llywodraeth Cymru nifer o weithiau at Ofqual i fynegi eu pryderon, ac ar 29 Awst dywedasant:

 

“Ar ôl ystyried y canlyniadau TGAU terfynol ar gyfer Cymru, daethom i’r casgliad nad oes modd o gwbl cyfiawnhau nac amddiffyn y bwriad i ganiatáu i ganlyniadau CBAC aros fel y maent. Rydym felly yn bwriadu gofyn i CBAC addasu’r canlyniadau dyfarnu ar gyfer TGAU Saesneg Iaith, gan ddefnyddio ymgeisyddiaeth Cymru yn 2011 yn sail cymharu, gyda goddefiant o 1% ar y graddau C ac A. Mae’r lefel goddefiant hon yn adlewyrchu lefel goddefiant y rheoleiddwyr ar gyfer perfformiad cohort o’r maint hwn gyferbyn â chanlyniadau rhagfynegedig.”[5]

 

32.  Ar ôl anfon y neges e-bost hon at Ofqual cynhaliwyd cyfarfod teleffon byr rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru ac Ofqual. Dywedodd Ofqual nad oedd yn cytuno â safiad Llywodraeth Cymru ac na fyddai’n gofyn am ailraddio.

 

33.  Ar 29 Awst hefyd, ysgrifennodd swyddogion Llywodraeth Cymru at CBAC, gan ofyn iddo ddarparu modelau posibl ar gyfer ailraddio’r cymhwyster. Atebodd CBAC trwy gynnig tri opsiwn. Y cyntaf ohonynt oedd dychwelyd i ganlyniadau’r cyfarfod dyfarnu, a fyddai’n parhau i olygu gostyngiad ar radd C o 3.3 pwynt canran. Byddai’r ail opsiwn wedi gwella hyn drwy leihau’r gostyngiad i 2.6 pwynt canran. Byddai’r trydydd opsiwn wedi achosi gostyngiad o 1.5 pwynt canran.

 

34.  Rhannodd swyddogion AdAS y data hyn gydag Ofqual, ond unwaith eto ni welwyd arwydd o unrhyw barodrwydd i ystyried ailraddiad o’r fath.

 

35.  Yn ystod yr wythnos ddilynol bu swyddogion AdAS yn paratoi’r adroddiad ar eu hymchwiliad, gan gasglu a chydosod data o nifer o wahanol ffynonellau. Cefais yr adroddiad hwnnw ar fore dydd Llun, 10 Medi. Cymeradwyais ei gyhoeddi a derbyniais ei argymhellion. Un o gasgliadau allweddol yr adroddiad oedd nad yw’r canlyniadau . . . ar gyfer ymgeiswyr yng Nghymru ar gyfer TGAU Saesneg Iaith Gradd C ac uwch . . . yn ddiogel nac wedi eu hategu gan unrhyw gyfiawnhad rhesymol”. Un o argymhellion canolog yr adroddiad oedd y dylid ailraddio cymhwyster CBAC, ar gyfer pob ymgeisydd o ddewis, ond pe bai Ofqual yn gwrthod cymeradwyo’r ailraddio, ar gyfer ymgeiswyr yng Nghymru yn unig.

 

36.  Cyn ei gyhoeddi, rhannwyd yr adroddiad gyda CBAC, gydag Ofqual a gyda CCEA yng Ngogledd Iwerddon. Cynhaliwyd cynhadledd deleffon ar gais Ofqual, a gofynnodd Ofqual am ohirio cyhoeddi’r adroddiad. Er mwyn bod mewn sefyllfa i weithredu’n gyflym a lleihau effaith andwyol y graddio annheg ar ymgeiswyr yng Nghymru ac oherwydd anfuddioldeb y trafodaethau cynharach gydag Ofqual ar y mater, gwrthodwyd y cais hwnnw.

 

37.  Ar 10 Medi gofynnwyd i CBAC roi ymrwymiad, o fewn 24 awr, y byddai’n ailraddio TGAU Saesneg Iaith. Gan na roddwyd ymrwymiad o’r fath, rhoddais Gyfarwyddyd i CBAC i ailraddio’r cymhwyster o fewn un wythnos. Digwyddodd yr ailraddiad hwnnw o fewn yr amser a ganiatawyd. O ganlyniad, mae 2,386 o ymgeiswyr bellach wedi cael graddau diwygiedig, ac yr wyf yn argyhoeddedig eu bod yn haeddu’r graddau hynny.

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Hydref 2012

 


Atodiad 1: Opsiynau a gyflwynwyd i’r rheoleiddwyr gan CBAC (gweler paragraff 22)

 

Opsiwn 1: Canlyniadau Dyfarnu: Rhagfynegiadau CA2 a’r canlyniadau ar gyfer Lloegr, o’u cymharu â’r rhagfynegiadau “canolfannau cyffredin” a’r canlyniadau ar gyfer Cymru

 

Cofrestriad Cyfatebol

A%

C%

F%

Rhagfynegiad

Gwir

Rhagfynegiad

Gwir

Rhagfynegiad

Gwir

Saesneg

27517

1.2

1.7

36.1

38.8

96.7

96.3

Saesneg Iaith

65927

19

19.3

77.3

81.4

99.5

99.6

Cyfunedig – Lloegr

93444

13.8

14.1

65.2

68.9

98.7

98.6

Cymru

30247

14.3

12.2

64.6

60.4

98.7

98


Opsiwn 2: Rhagfynegiadau CA2 a’r canlyniadau ar gyfer Lloegr, o’u cymharu â’r rhagfynegiadau “canolfannau cyffredin” a’r canlyniadau ar gyfer Cymru

 

Cofrestriad Cyfatebol

A%

C%

F%

Rhagfynegiad

Gwir

Rhagfynegiad

Gwir

Rhagfynegiad

Gwir

Saesneg

27517

1.2

1.7

36.1

35.3

96.7

96.2

Saesneg Iaith

65927

19

20

77.3

80.9

99.5

99.6

Cyfunedig – Lloegr

93444

13.8

14.6

65.2

67.5

98.7

98.6

Cymru

30247

14.3

12.8

64.6

59.7

98.7

98.3

 

Opsiwn 3: Rhagfynegiadau CA2 a’r canlyniadau ar gyfer Lloegr, o’u cymharu â’r rhagfynegiadau “canolfannau cyffredin” a’r canlyniadau ar gyfer Cymru

 

Cofrestriad Cyfatebol

A%

C%

F%

Rhagfynegiad

Gwir

Rhagfynegiad

Gwir

Rhagfynegiad

Gwir

Saesneg

27517

1.2

1.7

36.1

35.3

96.7

96.2

Saesneg Iaith

65927

19

18.9

77.3

80.1

99.5

99.6

Cyfunedig – Lloegr

93444

13.8

13.8

65.2

66.9

98.7

98.6

Cymru

30247

14.3

11.9

64.6

58.6

98.7

98.3

 

Opsiwn 4: Rhagfynegiadau CA2 a’r canlyniadau ar gyfer Lloegr, o’u cymharu â’r rhagfynegiadau “canolfannau cyffredin” a’r canlyniadau ar gyfer Cymru

 

Cofrestriad Cyfatebol

A%

C%

F%

Rhagfynegiad

Gwir

Rhagfynegiad

Gwir

Rhagfynegiad

Gwir

Saesneg

27517

1.2

1.6

36.1

35.3

96.7

96.2

Saesneg Iaith

65927

19

18.9

77.3

79.3

99.5

99.6

Cyfunedig – Lloegr

93444

13.8

13.8

65.2

66.3

98.7

98.6

Cymru

30247

14.3

11.9

64.6

57.6

98.7

98.2

 

 



[1] Yng ngeiriau’r gwahoddiad, “discussions that took place between [my] officials, the WJEC and Ofqual regarding the changes to the [grade boundaries] for GCSE English Language and the options that were available to [me]”.

[2] Yng ngeiriau’r Prif Weithredwr, “WJEC’s award for GCSE English Language provides outcomes for Wales that are considerably more severe than would be delivered under ‘comparable outcomes’ assumptions”.

[3] Yng ngeiriau’r llythyr: “[Ofqual would] “consider it necessary to send… a notice of intention to issue a direction on this matter”.

[4] Yng ngeiriau CBAC: if regulators’ collective view is that an adjustment should be made, we would suggest that [this option] is the one on which we would be able to reach agreement”.

[5] Yng Ngeiriau’r swyddogion: “In considering the final GCSE outcomes for Wales we have concluded that it is entirely unjustifiable and indefensible to let the WJEC outcomes stand as they are. We therefore intend to ask WJEC to adjust the outcomes of awarding for GCSE English Language using the 2011 Wales candidature as the basis for comparability and with a tolerance of 1% at grades C and A. This level of tolerance reflects the regulators’ level of tolerance for performance against predicted outcomes for a cohort of this size.”